minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
St Gwynog Llanwnog
English

Croeso i Eglwys Sant Gwynog

Croesewir chi'n gynnes i ymweld â'n heglwys sy'n agored bob dydd.Gellir ein canfod ar ochr ogleddol B4568 sy'n mynd drwy bentref Llanwnog.

Dewch i fwynhau tangnefedd yr adeilad hynafol yma a'i amgylchedd sy'n cynnwys un o'r ychydig groglofftydd pren cerfiedig hynafol yng Nghymru.Hefyd yma ceir bedd y bardd John Ceiriog Hughes awdur "Ar hyd y nos" -a nifer o ganeuon poblogaidd eraill.Ceir mwy am hanes yr adeilad a'i nodweddion unigryw mewn arweinlyfr sydd ar gael o fewn yr eglwys.

Ein prifddyletswydd a'n llawenydd yw addoli Duw naill ai ar yr ail a'r pedwerydd Sul yn y mis 11.00 y bore(ac yn achlysurol ar adegau eraill – gweler ein arwyddfwrdd am fwy o fanylion) neu drwy fedyddiadau, priodasau neu angladdau. Ond yr un mor bwysig ydy'r rhai hynny sy'n ymweld yn ystod yr wythnos fel unigolion neu grŵpiau bach, i weddïo neu i fwynhau orig o fyfyrdod tawel , yn ogystal ag i brofi awyrgylch y lle arbennig yma.

Mae ein heglwys yn rhan o Ardal Gweinidogaeth Bro Arwystli, ynghŷd â chwech eglwys arall ar y wefan yma, yn esgobaeth Bangor o fewn Yr Eglwys yng Nghymru.Mae'n heglwys ni yma yn gwasanaethu Llanwnog, Caersws a threflannau a ffermydd yr ardal.

Rydym yn cyd-weithio'n agos gydag eglwysi Methodistaidd a Phresbyteraidd Caersws, drwy CYTUN ( Eglwysi ynghyd yng Nghymru) ac mae'r grŵp yma wedi sefydlu cysylltiad agos gydag Ysgol Caersws. Mae'r ardal yma'n rhan hyfryd o Ganolbarth Cymru, ac rydym yn teimlo'n freintiedig i fod yn rhan o'r pentrefi a'r gymuned leol.


Cymraeg

Welcome to St Gwynog

You are warmly welcome to visit our church, which is open every day. You will find us on the north side of the B4568 as it passes through the village of Llanwnog.

Come and enjoy the peace of the building and its surroundings, including one of the oldest surviving carved wooden screens in Wales and the grave in the churchyard of the poet John Ceiriog Hughes (writer of "Ar hyd y nos" - "All through the night"). An illustrated guide in the church tells you more about the building's unique features and history.

The worship of God is our main responsibility and joy, whether on the second and fourth Sundays of the month at 11.00am (and occasionally at other times - please see our notice board for more details) or through baptisms, weddings and funerals. But equally vital are all who visit during the course of the week, as individuals or small groups, for quiet reflection and prayer, as well as to savour this special place.

Our church here is part of the Ministry Area of Bro Arwystli, together with the six other churches on this website, in the diocese of Bangor in the Church in Wales. Our particular church serves Llanwnog, Caersws and the surrounding hamlets and farms.

We pray and work closely with the Methodist and Presbyterian churches in Caersws, through CYTUN (Churches Together in Wales / Eglwysi ynghyd yng Nghymru) and this group has intitiated some links with the school there. This is a lovely part of mid Wales, and we are privileged to live here and be a part of our villages and community.